Click the images below to enlarge.
Allgymorth STEM
NRN AEM PhD Student, Sephira Riva demonstrates 'Molecular Gastronomy' at Super Science Saturday, National Waterfront Museum, Swansea
Ysbrydoli'r Genhedlaeth Ifanc
Credwn y bydd amlygu gweithgareddau STEM drwy raglen allgymorth yn agor cyfleoedd ac yn peri i bobl ifanc ymddiddori rhagor mewn addysg STEM. Rydym wedi cydweithredu ag ysgolion, digwyddiadau ennyn diddordeb a sefydliadau lleol sy'n ymwneud â gwyddoniaeth er mwyn sicrhau ein bod yn ysbrydoli ac yn annog cenhedlaeth o wyddonwyr, peirianwyr, ffisegwyr a mathemategwyr y dyfodol.
Rydym yn mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i Beirianneg a Gwyddoniaeth yng Nghymru ymhlith cynulleidfa mor eang â phosibl a hyrwyddo gyrfaoedd STEM i ddarpar wyddonwyr a pheirianwyr. Gwneir cyflwyniadau ymchwil blaengar fel rhan o'n cyfres Darlithwyr Nodedig tra hyrwyddir y gwerthfawrogiad ehangach o rôl Peirianneg a Thechnoleg yng Nghymru drwy ddigwyddiadau cyhoeddus megis yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydym yn cynnal cysylltiadau agos â nifer o gyrff Ymgyrchu a Hyrwyddol megis Athena SWAN, CaSE, Techniquest a Science Made Simple.
Rhai o'r rhaglenni rydym wedi cyfranogi ynddynt:
- Digwyddiad Blwyddyn Goleuni, Gogledd Cymru
- Yr Arddangosfa Bydoedd Cudd, Gogledd Cymru, gwyddoniaeth Ryngweithiol ar gyfer y teulu cyfan!
- Rhaglen Hyfforddi llysgenhadon STEM yr Ysgol Beirianneg, Prifysgol Caerdydd
- Ysgol Beirianneg gyda myfyrwyr 6ed dosbarth o ysgolion niferus
- Ysgol Sili, Bro Morgannwg, yn ysbrydoli plant ysgolion cynradd
- Ysgol Uwchradd Teilo, Llanedern, gweithgareddau peirianneg gyda myfyrwyr blwyddyn 7
- Techniquest, y digwyddiad Science of Me (gwyddoniaeth eich corff), ar agor i'r cyhoedd
- Prifysgol Surrey, Ysgol Haf y Sefydliad Sgiliau Electroneg
"Fe wnaeth o leiaf 200 o ymwelwyr gyfranogi yn ein sesiwn ymarferol, gan gynnwys plant ifanc. Roedd y sesiwn nodi ac ysgythru laser yn llwyddiannus iawn ar y diwrnod. Roedd llawer ohonynt yn dweud ‘waw’, 'mae hynny'n syfrdanol’ wrth weld sut mae nodi laser yn gweithio am y tro cyntaf"
Dr. Liyang Yue
Prifysgol Bangor